Clwb Chwaraeon
Bob prynhawn Mercher yn syth ar ol y wers olaf, caiff y plant ym Mlynyddoedd 3, 4, 5 a 6 eu hannog i ymuno yng ngweithgareddau'r Clwb Chwaraeon.
Mae'r gweithgareddau'n gorffen am 4:15 y prynhawn.
Caiff y plant gyfleodd i flasu amrywiaeth o weithgareddau gan gynnwys peldroed, rygbi TAG, pelrhwyd, rownderi, athletau, gemau tim llawn hwyl, tenis a golff.
Pe bai'n digwydd bwrw glaw, bydd y staff sydd yn gyfrifol yn trefnu gweithgareddau addas y tu mewn.
Mae'n gyfle hefyd i baratoi timoedd yr ysgol ar gyfer gwahanol gystadlaethau.