AMBIWLANS AWYR CYMRU
Braf oedd cael croesawu cynrychiolydd o'r AMBIWLANS AWYR CYMRU atom i'r Gwasanaeth Boreol ddydd Iau, Ionawr 17ed i dderbyn cyfraniad tuag at yr elusen.
Cyflwynodd y Pennaeth siec o £325 i Mr. Alun Davies sef y casgliad a godwyd trwy'r Bore Coffi a'r Gwasanaeth Diolchgarwch a gynhaliwyd yn nhymor yr Hydref.
Cawson ychydig o wybodaeth diddorol iawn ganddo hefyd am y gwasanaeth ac fe fu hyn yn sesiwn werthfawr gan godi ymwybyddiaeth y plant a'r staff at y gwaith hynod bwysig mae'r ambiwlansys awyr yn ei gyflawni.